Pwy ydyn ni

Pwy ydyn ni

English

Ein nodau yn 2020. Hourglass Cymru yw'r llais cenedlaethol i bobl hŷn sydd mewn perygl. Rydyn ni o blaid creu cymdeithas sy'n gwerthfawrogi pobl hŷn – lle gall y rhai sydd mewn perygl fyw yn rhydd o gamdriniaeth gan bobl maen nhw'n disgwyl gallu ymddiried ynddynt. Pan fydd cam-drin yn digwydd, rydyn ni am greu amgylchedd lle mae modd ei adnabod a mynd i'r afael ag ef.

 

Rydyn ni wedi ymrwymo i alw am adolygiad cyhoeddus brys o gamdriniaeth pobl hŷn, ac i roi terfyn ar achosion o gam-drin, niweidio ac ecsbloetio pobl hŷn. Rydyn ni'n ymdrechu i sicrhau cyfleoedd i bawb heneiddio'n ddiogel.

 

Bydd Hourglass Cymru yn parhau i lobïo a dylanwadu ar y fframwaith cyfreithiol a chyfiawnder troseddol a Llywodraeth Cymru i amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin a chreu sgwrs genedlaethol ynghylch heneiddio'n fwy diogel.

 

Byddwn yn parhau i deilwra'r ffordd rydyn ni'n cyflwyno pob ymgyrch a gwasanaeth i gynulleidfaoedd, gydag ymrwymiad i fuddsoddi yn ein Llinell Gymorth i sicrhau bod gwasanaeth dwyieithog ar gael.

 

Ein nod yw taflu goleuni ar rwystrau sefydliadol i wasanaethau pobl hŷn sydd mewn grwpiau lleiafrifol yng Nghymru drwy ddod â phortffolio amrywiol o astudiaethau achos at ei gilydd.