hourglass wales safer ageing stopping abuse volunteers

Gwirfoddolwch gyda ni

English

Mae gwirfoddolwyr Hourglass Cymru yn ganolog i'n gwaith, yn rhoi o'u hamser i helpu dioddefwyr sydd angen cymorth ac i helpu pawb sydd am roi terfyn ar y cam-drin a'r niweidio sy'n digwydd i bobl hŷn.

 

Mae pob un o'n gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant a chymorth llawn, ac mae ganddyn nhw'r sgiliau, y wybodaeth a'r empathi perthnasol i ddarparu gwasanaeth ystyrlon a phersonol i'r rhai rydyn ni'n eu cefnogi. Mae ein gwirfoddolwyr yn benderfynol ac yn angerddol - maen nhw bob amser yn gweithredu gyda gofal, parch a thosturi.


hourglass wales safer ageing stopping abuse helpline volunteers

 

Gwirfoddolwyr y Llinell Gymorth:

 

Rydyn ni'n aml yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd galwadau ar ein Llinell Gymorth i sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaeth llawn rhwng 9am–5pm, 5 diwrnod yr wythnos.

 

Mae ein Llinell Gymorth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i ddioddefwyr hŷn sy'n cael eu cam-drin, yn ogystal â phobl sy'n pryderu am gamdriniaeth, neu sydd wedi gweld pobl hŷn yn cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu eu hecsbloetio'n ariannol.

 

Os yw'r canlynol yn berthnasol i chi, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth:

 

  • rydych chi'n 18 oed neu'n hŷn;

  • rydych chi'n mwynhau gweithio gyda phobl hŷn;

  • mae gennych chi sgiliau cyfathrebu ardderchog;

  • gallwch feithrin cydberthynas â phobl hŷn, a/neu bobl sydd mewn trallod;

  • gallwch ddarparu empathi, cyngor, cymorth neu fod yn rhywun sy'n gallu gwrando;

  • rydych chi'n barod i ymgymryd â hyfforddiant helaeth i ddysgu'r wybodaeth a'r sgiliau perthnasol i chi allu delio â galwadau llinell gymorth.

  • Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chymorth llawn, meddalwedd trafod galwadau a chymorth ac arweiniad parhaus gan ein staff a gwirfoddolwyr eraill. Byddwn yn talu am eich holl dreuliau, ac yn darparu tystysgrifau ar ôl i chi gwblhau hyfforddiant.

 

 

Meddai Rachel, un o wirfoddolwyr y llinell gymorth:

 

"Mae gwirfoddoli'n brofiad gwerth chweil i fi, ac mae'n cynnig llawer o fanteision.  Mae fy anghenion cymdeithasol yn cael eu bodloni... dw i'n teimlo fel fy mod i'n cael fy ngwerthfawrogi am fy nghyfraniad a fy ymdrech.  Dw i'n cael cymorth ac yn cael fy annog heb deimlo dan bwysau.  Fe wnes i ddewis yn ofalus pa sefydliad ro'n i am wirfoddoli gyda fe, ac roedd hi'n ymddangos fel dewis naturiol i fi wirfoddoli gyda Hourglass Cymru. Mae'r hyfforddiant ychwanegol wedi bod yn amhrisiadwy ac maen nhw'n talu eich treuliau chi.  Dw i'n annog unrhyw un sy'n meddwl am wirfoddoli i wneud.  Mae cyfrannu'n bositif at fywydau pobl eraill yn rhoi boddhad i bawb".


hourglass wales safer ageing stopping abuse fundraising volunteers

Gwirfoddolwyr codi arian:

 

Mae Hourglass Cymru yn bodoli i herio camdriniaeth pobl hŷn, i helpu'r rheini sydd wedi dioddef camdriniaeth ac i geisio sicrhau bod pawb yn heneiddio'n fwy diogel. Mae ein holl wasanaethau'n cael eu darparu am ddim i bobl hŷn, ond mae angen i ni gyrraedd mwy o bobl a helpu mwy. Yn ogystal â'r cyngor a'r cymorth hollbwysig a roddir gan ein Llinell Gymorth, rydyn ni hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i roi cymorth uniongyrchol i bobl hŷn. Dydyn ni ddim yn cael unrhyw gyllid gan y llywodraeth i redeg ein gwasanaethau, felly rydyn ni'n gwbl ddibynnol ar godi arian a rhoddion.

 

Os gallwch helpu gydag unrhyw rai o'r canlynol, cysylltwch â ni:

 

  • dosbarthu tuniau casglu yn eich cymuned leol

  • trefnu digwyddiadau codi arian, e.e. gwerthu cacennau, boreau coffi, digwyddiadau noddedig, ac ati.

  • cefnogi ein tîm gyda cheisiadau am gyllid, ac ati.


 

Gwirfoddolwyr eraill:

 

Rydyn ni bob amser yn chwilio am gymorth gyda meysydd eraill hefyd, felly os gallwch chi ein cefnogi mewn ffyrdd eraill, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Efallai y byddwch yn gallu ein helpu gyda rhai o'r canlynol:

 

  • gwaith gweinyddol

  • technoleg gwybodaeth

  • cyfryngau cymdeithasol

  • ymchwil

  • gwaith polisi

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am unrhyw rai o'r cyfleoedd uchod, cysylltwch â cymru@wearehourglass.org, y Cydlynydd Prosiectau, i gael rhagor o wybodaeth.